5 Niwrnod o Gyfeirnodi (#su5dor): Diwrnod 1. Cyfeirnodi Llyfrau

Croeso i’r cwrs ar-lein byr hwn a fydd yn rhedeg dros y pum niwrnod nesaf. Er bod hyn wedi ei deilwra’n arbennig ar gyfer y rhai sydd yn Yr Ysgol Reolaeth, mae cynghorion ar gael ar gyfer unrhyw fyfyrwyr sy’n defnyddio dull cyfeirio APA, i’w defnyddio.

Byddwn yn ymdrin â’r elfennau sylfaenol i’ch helpu i ddechrau defnyddio arddull gyfeirnodi APA ac yn rhoi cyngor i chi ar offer y gallwch eu defnyddio. Mae 6ed rhifyn dull cyfeirio APA yn gyfarwydd iawn yn eang ac mae’n cynnwys rheolau clir ynglŷn â sut i gyfeirio gwahanol fathau o ddeunydd.

Mae’n arddull gyfeirnodi awdur/dyddiad sy’n golygu eich bod yn dyfynnu cyfenw(au) awdur(on) a’r dyddiad cyhoeddi yn nhestun eich aseiniad, yna manylion llawn yr adnoddau a ddefnyddioch (llyfrau, erthyglau cyfnodolion, dogfennau ar-lein) mewn rhestr yn nhrefn y wyddor ar y diwedd, sef Rhestr Gyfeiriadau. Mae yna Ganllaw Llyfrgell APA llawn a chynhwysfawr. Mae canllaw byr APA ar gael ar-lein hefyd gyda chopïau papur yn y llyfrgell.

Pam bod rhaid i mi gyfeirnodi?

Mae cyfeirnodi’n rhan bwysig iawn o’ch cwrs academaidd. Os ydych yn defnyddio gwaith rhywun arall heb gydnabod hynny, rydych chi’n cyflawni llên-ladrad. Bydd cyfeirnodi’n gywir yn cydnabod gwaith yr awdur yn llawn, ac ar ben hynny’n dangos i’ch darlithydd eich bod wedi darllen ffynonellau academaidd ac wedi darllen yn helaeth. Yr hyn sy’n allweddol er mwyn cyfeirnodi’n dda mewn aseiniad yw defnyddio ffynonellau dibynadwy da bob amser. Mae dod o hyd i ddeunyddiau ar y rhyngrwyd yn hawdd; ond mae dod o hyd i ddeunyddiau dibynadwy da ar y rhyngrwyd ychydig yn fwy heriol.

Argymhellwn eich bod bob amser yn dechrau drwy wirio’r rhestr ddarllen a ddarparwyd gan eich darlithydd ar Blackboard. Edrychwch ar ochr chwith y sgrîn yn eich modiwl Blackboard, a gwelwch ddolen i restr ddarllen ryngweithiol.

Bydd pob adnodd yn y rhestr ddarllen yn caniatáu i chi glicio arno, gan eich cyfeirio at iFind, catalog y llyfrgell. Bydd catalog y llyfrgell yn rhoi digon o wybodaeth lyfryddiaethol i chi er mwyn gallu cyfeirnodi’r adnodd y mae ei angen arnoch.

Cyfeirnodi Llyfrau

Beth am ddechrau drwy gyfeirnodi llyfr heddiw. Fel enghraifft, byddwn yn defnyddio’r llyfr Economics gan Michael Parkin, Kent Matthews a Melaine Powell.

Y prif adrannau y bydd angen i chi eu nodi er mwyn cyfeirnodi llyfr yn gywir yw:

  • Awdur(on) neu Golygydd(ion)
  • Blwyddyn cyhoeddi
  • Teitl y llyfr
  • Argraffiad (os yn berthnasol)
  • Man cyhoeddi
  • Cyhoeddwr

Os yw’r llyfr gennych o’ch blaen, mae’r wybodaeth hon fel arfer ar gael ar y clawr a’r dudalen deitl.

Dyma sut y byddai’r llyfr yn edrych yn y Rhestr Gyfeiriadau

Parkin, M., Matthews, K., & Powell, M. (2014). Economics. (9th ed.). Harlow: Pearson.

I’ch cynorthwyo, mae opsiwn Enwi yn y ddewislen Gweithredoedd ar iFind (gwelwch isod).

Screen clipping of the iFind record for the Economics book. It shows the Citation option and other options available under the Actions menu to the right of the record

Serch hyn, mae’n bosib y bydd angen i chi gyflwyno ychydig o newidiadau i’r rhan Enwi o iFind. A allwch chi weld y camgymeriadau yn y cyfeiriad isod?

Screen clipping of the APA citation as produced by iFind: Parkin, M., Matthews, K., & Powell, M. (2014). Economics / Michael Parkin. (9th ed.; European ed., Always learning). Harlow: Pearson.

Dyfynnu o fewn y testun

Os byddech am ddyfynnu’r llyfr hwn yn y testun, mae dwy ffordd o wneud hyn:

  • Ar ddechrau’r frawddeg:

Yn ôl Parkin, Powell a Matthews (2014) nid yw astudio economeg ynghylch arian yn unig, ond am y cymhelliant a’r amgylchiadau o wneud dewisiadau.

  • Ar ddiwedd y frawddeg:

Nid yw economeg am arian yn unig, ond am y cymhelliant a’r amgylchiadau o wneud dewis (Parkin, Powell & Matthews, 2014).

Sylwer: Cysylltwch enwau’r ddau awdur ag a/ac pan fyddwch yn eu henwi y tu allan i barenthesisau. Cysylltwch yr enwau ag ampersand (&) y tu mewn i barenthesisau.

Cwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau hyd yn hyn rhowch wybod i ni gan ddefnyddio’r adran sylwadau yn y blog neu drwy twitter gan ddefnyddio #su5dor. Gallwch hefyd e-bostio buslib@swansea.ac.uk.

Yfory byddwn yn edrych ar erthyglau mewn cyfnodolion.

Leave a comment