Mae erthyglau mewn cyfnodolion yn ffynhonnell wych o wybodaeth ddiweddar a dibynadwy. Mae’r myfyrwyr gorau yn defnyddio erthyglau cyfnodolion yn ogystal â llyfrau yn eu hymchwil.
A ydych chi’n cofio pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gyfeirnodi llyfr? Mae ychydig yn rhagor o wybodaeth mewn erthygl mewn cyfnodolyn y mae angen i chi ei nodi er mwyn cyfeirnodi’n gywir. Y prif adrannau y bydd angen i chi eu nodi er mwyn cyfeirnodi erthygl mewn cyfnodolyn yn gywir yw:
- Awdur(on)
- Blwyddyn cyhoeddi
- Teitl yr erthygl
- Enw’r cyfnodolyn
- Cyfrol
- Rhif y Rhifyn (os oes tudaleniad parhaus yn unig h.y. os yw pob rhifyn yn dechrau ar dudalen 1)
- Rhif y dudalen
- doi (os ar gael)
Os yw’r erthygl gyda chi o’ch blaen, mae’r wybodaeth hon fel arfer ar y dudalen gyntaf. Neu, chwiliwch am yr erthygl yn iFind (catalog y Llyfrgell), gan ddefnyddio’r tab Erthyglau a mwy, a byddwch yn gallu gweld y wybodaeth lyfryddiaethol angenrheidiol er mwyn cyfeirnodi’n gywir. Gallwch hefyd ddefnyddio’r opsiwn Dyfynnu yn y ddewislen Gweithredoedd i weld y cyfeirnod APA. Er, cofiwch wirio bod y manylion yn gywir!
Dyma sut y byddai’r erthygl yn edrych yn y Rhestr Gyfeiriadau
Cohen, J., Manzon, G., & Zamora, B. (2015). Contextual and individual dimensions of taxpayer decision making. Journal of Business Ethics, 126, 631-647.
Dyfynnu o fewn y testun
Weithiau, efallai y byddwch am ddefnyddio dyfyniad uniongyrchol yn eich aseiniad, ond ceisiwch ddefnyddio dyfyniadau’n gynnil, oherwydd mae aralleirio’n dangos mwy o ddealltwriaeth o’ch pwnc.
Os dewiswch gynnwys dyfyniad uniongyrchol, mae’n bwysig iawn eich bod yn defnyddio dyfynodau ac eich bod bob amser yn cynnwys rhifau tudalen. Mae nifer o ffyrdd y gallwch wneud hyn:
- Ar ddechrau’r frawddeg:
Yn ôl Cohen, Manzon a Zamora (2015, t. 632) “There are a number of non-economic factors that potentially affect taxpayer decisions.”
Neu
Yn ôl Cohen, Manzon a Zamora (2015) “There are a number of non-economic factors that potentially affect taxpayer decisions” (t. 632).
- Ar ddiwedd y frawddeg:
“There are a number of non-economic factors that potentially affect taxpayer decisions” (Cohen, Manzon & Zamora 2015, t. 632).
Sawl awdur y dylwn ei gynnwys?
Gall erthyglau mewn cyfnodolion, a llyfrau, gael eu hysgrifennu gan sawl awdur, ac mae gan APA reol benodol ar gyfer sawl awdur y dylid ei gynnwys yn y testun.
Beth am ddefnyddio’r erthygl hon fel enghraifft:
Fast, N., Sivanathan, N., Mayer, N., & Galinsky, A. (2012). Power and overconfident decision-making. Organizational Behaviour and Human Decision Processes, 117(2), 249-260.
Os oes gan yr adnodd yr hoffech ei ddefnyddio dri i bum awdur (fel yr enghraifft hon), rhaid i chi gynnwys pob awdur y tro cyntaf y dyfynnwch hwy, felly byddai’n edrych fel hyn yn y testun:
Dyfyniad cyntaf
Yn ôl Fast, Sivanathan, Mayer a Galinsky (2012) mae arweinwyr gorhyderus yn perfformio’n wael.
Neu
Mae arweinwyr gorhyderus yn perfformio’n wael (Fast, Sivanathan, Mayer & Galinsky, 2012).
Ail ddyfyniad
Am eich bod wedi cynnwys y tri awdur yn y dyfyniad cyntaf, gallwch nawr ddefnyddio et al. ar gyfer unrhyw ddyfyniadau eraill yn y testun.
Canfu Fast et al. (2012) fod unigolion sydd â theimlad goddrychol o bŵer yn tueddu i oramcanu eu galluoedd.
Neu
Mae unigolion sydd â theimlad goddrychol o bŵer yn tueddu i ormcanu eu galluoedd (Fast et al., 2012).
Os oes gan yr adnodd yr hoffech ei ddefnyddio chwe awdur neu fwy, gallwch ddefnyddio et al. ar gyfer y dyfyniad cynt
Cwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau hyd yn hyn rhowch wybod i ni gan ddefnyddio’r adran sylwadau yn y blog neu drwy twitter gan ddefnyddio #su5dor. Gallwch hefyd e-bostio buslib@swansea.ac.uk.
Yfory byddwn yn edrych ar wefannau a dogfennau ar-lein.