Ydych chi’n cofio beth ddwedom ar Ddiwrnod 1? Yr hyn sy’n allweddol er mwyn cyfeirnodi’n dda mewn aseiniad yn y lle cyntaf yw defnyddio ffynonellau dibynadwy da. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwerthuso popeth a gewch ar-lein gan ddefnyddio’r dull WWWW (Who, Why, When, Where):
Pwy – Pwy ysgrifennodd y wybodaeth?
Pam – Pam bod y wybodaeth yno? (A oes tuedd?)
Pryd – Pryd cyhoeddwyd y wybodaeth? (A yw’n gyfredol?)
Ble – O ble mae’r wybodaeth? (Cliwiau yn yr URL h.y. .com, .ac.uk)
Y prif adrannau y bydd angen i chi eu nodi er mwyn cyfeirnodi gwefan neu ddogfen ar-lein yn gywir yw:
- Awdur(on) (personol neu gorfforaethol)
- Blwyddyn cyhoeddi
- Teitl y wefan/dogfen
- Dyddiad adalw (os yw’n debygol y caiff y ffynhonnell ei diweddaru yn unig)
- URL uniongyrchol sy’n gweithio
Yn aml iawn, bydd peth gwybodaeth nad yw ar gael ar gyfer dogfennau ar-lein; enghraifft gyffredin yw dim dyddiad – yn yr achos hwn gallwch wneud y canlynol:
- Dim dyddiad? – defnyddiwch (n.d.) yn lle
Mae cyngor pellach ar dudalennau 19-21 ein Canllawiau Cyfeirnodi APA.
Yn y Rhestr Gyfeiriadau
Dyma ychydig o enghreifftiau:
- Gwefannau
Yr unig achos y mae angen nodi dyddiad adalw yn y Rhestr Gyfeiriadau yw os credwch y gallai’r wefan gael ei diweddaru (mae’n anodd gwybod weithiau).
Tesco PLC. (n.d.). Our businesses. Adalwyd ar Mawrth 10, 2017, o https://www.tescoplc.com/about-us/our-businesses/
- Cyhoeddiad ar-lein
Mae’r cyfeiriad hwn yn cysylltu â fersiwn PDF y Côd, y mae dyddiad cyhoeddi arno, felly nid oes angen rhoi dyddiad adalw.
Chartered Institute of Personnel and Development. (2016). Annual report and accounts 2015-16. Adalwyd https://www.cipd.co.uk/Images/annual-report-2015-16_tcm18-16632.pdf
Dyfynnu o fewn y testun
Gair i gall: os byddwch yn defnyddio’r un dyfyniad sawl gwaith yn eich aseiniad, defnyddiwch acronymau. Rhaid i chi egluro’r acronym yn llawn y tro cyntaf, gyda’r acronym ei hun, fel bod yr ystyr yn amlwg i’r darlithydd.
- Dyfyniad cyntaf:
Yn ôl y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD, 2016, t.18) “a healthy, happy and engaged workforce is an important indicator of our success”.
Neu
Yn ôl y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD, 2016) a “healthy, happy and engaged workforce is an important indicator of our success” (t.18).
Neu
A “healthy, happy and engaged workforce is an important indicator of our success” (Chartered Institute of Personnel and Development (CIPD), 2016, t.18).
- Ail ddyfyniad
Am i chi egluro’r acronym yn y dyfyniad cyntaf, gallwch nawr ddefnyddio’r acronym mewn unrhyw ddyfyniadau eraill yn y testun.
Ymgysylltu â hyfforddiant a datblygiad parhaus yw’r “key to a successful career” (CIPD, 2016, t.18).
Neu
Mae’r CIPD (2016) yn nodi y dylai gweithwyr ymgysylltu â hyfforddiant a datblygiad parhaus gan mai hynny yw’r “key to a successful career” (t.18).
Cwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau hyd yn hyn rhowch wybod i ni gan ddefnyddio’r adran sylwadau yn y blog neu drwy twitter gan ddefnyddio #su5dor. Gallwch hefyd e-bostio buslib@swansea.ac.uk.
Yfory byddwn yn edrych ar fformatio eich Rhestr Gyfeiriadau.