5 Niwrnod o Gyfeirnodi (#su5dor): Diwrnod 4. Fformatio eich rhestr gyfeiriadau

Dros y tridiau diwethaf rydym wedi edrych ar y tair prif ffynhonnell wybodaeth y byddwch yn eu defnyddio yn eich aseiniadau, sef llyfrau, erthyglau mewn cyfnodolion a dogfennau ar-lein/gwefannau. Mae’n bwysig bod eich Rhestr Gyfeiriadau’n darparu’r holl wybodaeth er mwyn i’ch darlithwyr allu dod o hyd i’r ffynhonnell, os byddant am wneud hynny.

Mae’n bwysig hefyd ei bod wedi’i fformatio yn yr Arddull APA gywir. Mae myfyrwyr weithiau’n cael anhawster â hyn ac yn treulio llawer o amser yn fformatio’u rhestri eu hunain; ond mae nifer o offer Word a all wneud y broses hon yn gynt ac yn haws i chi.

Pwyntiau allweddol

  • Dylid dechrau’r Rhestr Gyfeiriadau ar dudalen newydd.
  • Dylai’ch Rhestr Gyfeiriadau gynnwys popeth rydych wedi’i ddyfynnu yn eich aseiniad, NID popeth rydych wedi’i ddarllen (a elwir yn llyfryddiaeth).
  • Dylai fod yn nhrefn y wyddor yn ôl cyfenw’r awdur.
  • Dylai fod bylchau dwbl rhwng llinellau a dylai fod wedi’i mewnoli.

Os defnyddiwn yr holl adnoddau rydym wedi edrych arnynt dros y tridiau diwethaf, byddai fy Rhestr Gyfeiriadau’n edrych fel hyn:

A reference list in APA format

Mae gwneud hyn yn cymryd tri cham syml yn Word: yn gyntaf, amlygwch y Rhestr Gyfeiriadau; yna dewiswch yr eicon A-Z o’r opsiynau; yna i roi bylchau dwbl rhwng llinellau a mewnoli’r rhestr, dewiswch y saeth fach ger y paragraff, ac o’r opsiynau dewiswch ‘Special>Hanging’, yna ‘Line spacing>double’.

Screenshot of the options to choose when formatting an APA reference list in MS Word

Dyma sgrinlediad byr i ddangos i chi sut i fformatio’r rhestr gan ddefnyddio’r offer yn Word.  

Cwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau hyd yn hyn rhowch wybod i ni gan ddefnyddio’r adran sylwadau yn y blog neu drwy twitter gan ddefnyddio #su5dor. Gallwch hefyd e-bostio buslib@swansea.ac.uk.

Yfory byddwn yn edrych ar offer a allai’ch helpu i gyfeirnodi.

Leave a comment