Mae amrywiaeth eang o offer ar gael am ddim i’ch helpu gyda dyfynnu a chreu rhestr gyfeiriadau, ond nid oes un ohonynt yn berffaith, felly mae’n bwysig eich bod yn gyfarwydd â hanfodion cyfeirnodi APA a’r pwyntiau allweddol i fod yn ymwybodol ohonynt.
Offeryn cyfeirnodi yn iFind
Mae gan iFind, catalog y Llyfrgell, erfyn sy’n argymell sut y dylai llyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion edrych gan ddefnyddio arddull gyfeirnodi APA. (Edrychom ar hyn yn fras ar Ddiwrnodau 1 a 2.) Cliciwch ar ‘Llyfrgell’, yna ‘Gweithrediadau’, yna ‘Cyfeiriad’ i weld hyn. Gallwch edrych ar sgrinlediad byr o hyn ar-lein.
Gwiriwch hyn bob tro! Mae’n erfyn da, ond bydd yn gwneud rhai camgymeriadau, felly mae angen i chi wybod pa wybodaeth sydd ei hangen.
Offer cyfeirnodi mewn cronfeydd data
Mae gan rai cronfeydd data hefyd offeryn sy’n fformatio cyfeirnodi ar eich cyfer. Rydym wedi cynhyrchu sgrinlediadau byr o sut i wneud hyn yn Business Source Complete ac yn Proquest Business Collection. Er, rhaid i chi gofio gwirio bod yr wybodaeth yn gywir!
Cyfeirnodi gan ddefnyddio Word (rheoli ffynonellau)
Mae tab Cyfeirnodi ar y bar Offer yn Word, a all fod yn ddefnyddiol os ydych yn defnyddio’r un gliniadur neu gyfrifiadur i ysgrifennu aseiniadau. Bydd yn rheoli’ch ffynonellau ac yn defnyddio’r arddull APA gywir. Rydym wedi cynhyrchu canllaw cryno i’ch helpu. Edrychwch ar y tudalennau cymorth sydd ar gael ar wefan Microsoft Office am ragor o fanylion ynglŷn â defnyddio’r offeryn hwn.
EndNote Online
EndNote yw’r erfyn y mae Prifysgol Abertawe’n tanysgrifio i’w ddefnyddio, felly mae fersiwn bwrdd gwaith ar gyfer cyfrifiaduron ar y campws, ond mae’r fersiwn ar-lein yn ddefnyddiol iawn, oherwydd gallwch ei defnyddio unrhyw le, cyhyd â bod gennych fynediad i’r rhyngrwyd. Mae ein harweiniad ar gael drwy glicio yma, a gallwn ddarparu hyfforddiant pellach os hoffech ei defnyddio. Gallwch greu eich llyfrgell ffynonellau eich hun a defnyddio’r nodwedd ddyfynnu wrth ysgrifennu yn Word, a fydd yn fformatio’ch cyfeiriadau yn arddull APA.
Mae’r llyfrgell wedi cynhyrchu canllawiau ar-lein i’r fersiwn gwe o EndNote. Gallwn ddarparu rhagor o hyfforddiant os hoffech ei ddefnyddio. Rydym hefyd yn cynnig 5 diwrnod o EndNote (#su5doe). Gallwch gofrestru i ddysgu am EndNote Online mewn tameidiau bach, fesul tipyn.
Diolch am gymryd rhan yn 5 Niwrnod o Gyfeirnodi (#su5dor). Cofiwch fod cymorth a chyngor cyfeirnodi ar gael bob amser gan eich llyfrgellwyr yr Ysgol Reolaeth. Gallwch drefnu apwyntiad un-i-un (hefyd ar gael drwy skype), ein e-bostio, neu alw heibio’r Llyfrgell i siarad ag un ohonom.
Pob lwc gyda’ch aseiniad!